Datganiad i’r Wasg
21/11/2021

CAM BYCHAN OND PWYSIG AR DAITH HIR

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi croesawu cymal yn y cytundeb arfaethedig rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru sydd yn galw am ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu. Mae’r cytundeb yn debygol o gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf.

Yn ôl y Cyngor, mae cynnwys cymal o’r fath yn gam bychan ar y daith hir i sicrhau tegwch cyfryngol i Gymru gan gyfrannu yn adeiladol at y daith hirach i wella natur a safon democratiaeth y wlad.

Dywedodd Bethan Jones Parry, aelod o Fwrdd y Cyngor: “Bydd datganoli darlledu o fantais garw i Gymru ac i’r Cymry. Mae’r pandemig wedi profi nad yw ein straeon a’n blaenoriaethau ni yn cyrraedd agenda y cyfryngau bob amser. Does dim dwywaith nad yw ein gwlad yn cael ei hadlewyrchu yn ei chyfanrwydd ar y cyfryngau Cymreig heb sôn am ar unrhyw blatfform Prydeinig.”

“Mae trigolion a dinasyddion Cymru bellach yn gwybod beth yw maint y gagendor cyfryngol yma ac yn gwybod o brofiad hefyd nad yw’r sefyllfa bresennol yn iach, yn deg nac yn ddemocrataidd.”

Ychwanegodd nad yw nodi cefnogaeth yn ddigon gan bwysleisio bod angen strategaeth gyflawn a thargedau amser er mwyn cyflawni’r nod.

“Nid yw ‘ymchwilio i bosibiliadau’, ‘mynd i’r afael â phryderon’ a ‘chefnogi’, er yn gadarnhaol, yn ddigon bellach. Mae angen tipyn mwy o uchelgais ac arweiniad cryf – a hynny ar frys gan fod y sefyllfa fel ag y mae hi eisoes wedi ac yn parhau i wneud niwed i hunaniaeth Cymru a’i Senedd ddatganoledig,” meddai.

Mae’r Cyngor eisoes wedi ymateb i sawl ymgynghoriad ar ddatganoli darlledu gan gynnal cyfarfodydd cyson efo gwleidyddion ac arbenigwyr yn y maes. Yn ôl Bethan Jones Parry mae hyn yn amlwg yn dwyn ffrwyth ac felly yn sicr o barhau.

“Byddwn yn falch o barhau i gydweithio gyda gwleidyddion o bob lliw ynghŷd ag eraill sydd â chanddynt diddordeb ac sydd yn weithgar ym meysydd newyddiaduraeth, ffilm, radio a theledu lleol a mynediad i’r wê er mwyn cael y maen i’r wal cyn gynted ag y bo modd.”

– DIWEDD –

Datganiad i’r Wasg 
30/10/2021
Datganoli Darlledu yw’r Gêm 

Dim ond datganoli darlledu all sicrhau y bydd cefnogwyr rygbi rhyngwladol yng Nghymru yn gallu gweld y gemau yn rhad ac am ddim yn ôl y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol. 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ati ar frys i sicrhau datganoli darlledu er tegwch i’r gwylwyr – ac i gefnogwyr Cymru. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: 

‘Mae gan Llywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod y gemau yma ar gael yn rhad ac am ddim i’r gwylwyr oll ac mai nid diwedd y gân – na’r gêm yn y cyd-destun yma – yw’r geiniog bob tro. Dim ond datganoli darlledu all sicrhau bod gan ein llywodraeth y gallu a’r grym i wneud hynny. 

Rydym felly yn galw ar y Llywodraeth i gydweithio efo’r Cyngor a’r eraill niferus sydd o’r un farn er mwyn bwrw ati ar fyrder i newid y drefn.’ 

Mae’r penderfyniad i ddarlledu holl gemau rhyngwladol Cymru yr Hydref eleni ar rwydwaith y cwmni Americanaidd Amazon Prime Video yn golygu y bydd yn rhaid i gefnogwyr dalu am wylio’r gemau er bod Amazon wedi caniatau i ddarlledwr cyhoeddus, S4C, ddarlledu’r gyfres yn rhad ac am ddim llynedd. 

Mae Owen Evans, Prif Weithredwr S4C wedi galw’r penderfyniad yn ‘gam yn ôl’ gan ychwanegu bod darlledwyr cyhoeddus yn wynebu cael eu rhewi allan yn gyfangwbl o ddarlledu y gemau er gwaethaf cael caniatad i ddarlledu yr uchafbwyntiau awr wedi i bob gem ddarfod. 

Pan ofynwyd iddo gan aelodau Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru os oedd S4C yn croesawu’r penderfyniad, dywedodd yn ddi-flewyn ar dafod “Na. ‘Tydyn ni bloody well ddim a bod yn onest’. 

Mae ‘The Rugby Paper’ yn dyfynnu un o uwch reolwyr Amazon sy’n dweud bod eu bod wedi synnu bod ffigyrau S4C ar gyfer y gemau rhyngwladol mor uchel gan ddenu cymaint o siaradwyr di Gymraeg er mwyn gwylio’r gemau am ddim. Dyma wnaeth i’r cwmni ail-feddwl meddai. 

Nid oes gan Llywodraeth Cymru unrhyw rymoedd deddfu na rheoleiddio yn y maes darlledu felly mae’n amhosib i’r Senedd wyrdroi hyn er eu bod wedi holi Steve Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru ar y mater ychydig ddyddiau yn ôl. 

-Diwedd-  

Datganiad i’r Wasg
15/09/2021
CYNLLUNIAU LLYWODRAETH Y ‘DU’ YN CAEL EU DISGRIFIO YN RHAI PERYGLUS AC ANNEMOCRATAIDD  

Mae cynlluniau gan Lywodraeth ‘y DU’ i’w gwneud yn ofyniad cyfreithiol bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus – sy’n cynnwys S4C a BBC Cymru – yn cynhyrchu rhaglenni ‘yn benodol Brydeinig’, wedi cael eu disgrifio fel rhai annemocrataidd a pheryglus gan y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol. 

Yn ôl y Cyngor mae’r datganiad hwn yn gofyn llawer o gwestiynau pwysig, yn gyntaf parthed y diffiniad o ‘Brydeinig’, lle mae y sylw yn y wasg i’r pandemig yn parhau i brofi bod ‘Prydeinig’ yn cael ei ddiffinio’n amlach na pheidio gan y cyfryngau prif ffrwd i olygu ‘ Seisnig’. 

Ond mae hefyd yn codi cwestiwn pwysig ynglyn a phwy, heblaw am bobl Cymru, sydd a’r hawl i bennu cynnwys sianeli teledu Cymru? 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: ‘Yma eto gwelwn reswm cryf i ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru ar frys. Rydym yn galw ar ein Llywodraeth Lafur i gymryd camau pendant i’r cyfeiriad hwn fel mater o frys. ’ 

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn gweithio ar reoliadau cyfathrebu a darlledu addas ar gyfer Cymru, gan baratoi’r ffordd ar gyfer eu datganoli. 

Diwedd  

Datganiad i’r Wasg 
06/09/2021

ACTORES A CHYFARWYDDWR YN CAEL EU HETHOL  I DDATBLYGU’R DRAFODAETH AR DDATGANOLI DARLLEDU 

Mae’r actores Sharon Morgan a’r Cyfarwyddwr Llion Iwan wedi’u hethol ar Fwrdd sydd yn datblygu’r drafodaeth ar ddatganoli darlledu. 

Gyda phenderfyniadau ar ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud yn Llundain ar hyn o bryd, gwaith y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol ydy datblygu rheoliadau a strwythurau wrth baratoi i ddatganoli’r maes darlledu i Gymru. 

Mae Sharon Morgan yn actores ac yn sgriptwraig sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA am ei phortread o Mary yn Tair Chwaer (1999); ei phortread o Martha yn Martha, Jac a Sianco (2008); a’i phortread o Maggie yn Resistance (2012). Mae hi hefyd wedi’i henwebu i fod ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymru Equity, undeb llafur y Deyrnas Gyfunol ar gyfer ymarferwyr creadigol. Roedd Sharon Morgan yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws. 

Mae Llion Iwan yn Reolwr Gyfarwydd Cwmni Da. Mae e wedi bod yn newyddiadurwr print, yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr dogfennau ar gyfer BBC1, BBC 2, BBC 4 a BBC Cymru. Mae ei ffilmiau wedi ennill gwobrau yn y Ffrainc, Swisdir, Canada a gan yr RTS (Royal Television Society). Mae e hefyd wedi bod yn Gomisiynydd Cynnwys S4C. 

Mae’r ddau yn ymuno ag Angharad Mair, Barrie jones, Beti George, Betsan Powys, Bethan Jones Parry, Euros Lewis, Marc Webber, Nia Ceidiog ac Owain Gwilym sydd yn parhâu a’u dyletswyddau. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu: “Mae’r ychwanegiad hwn i’r Bwrdd yn werthfawr iawn gan y gallwn nawr ymestyn ein gwaith hyd yn oed ymhellach gan fod y ddau yma yn dod ag arbenigedd, sgiliau a phrofiadau newydd gyda hwy. Disgwyliwn ymlaen at y gwaith sydd o’n blaenau ni eleni wrth gynllunio strwythur gyfathrebu Cymreig a fydd yn ei le, i’w fabwysiadu pan ddaw’r pwerau hynny i Gymru yn y blynyddoedd nesaf.   

Diwedd  

 

Datganiad i’r Wasg
Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
21/05/2021

Rhaid Mynd i’r Afael â’n Newyddiaduraethâ’n Gorsafoedd Radio Lleol ac â Thlodi Digidol  

Yn wythnos lawn gyntaf y Llywodraeth hon mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i fynd ati yn syth i gymryd camau i sicrhau newyddiaduraeth iach a phlatfformau teilwng iddii gymryd camau i sicrhau bod ein gorsafoedd radio lleol ni ollyn rai lleol; ac i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad da iawn i’r wê.  

Galwadau y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl i weithio ar ddatblygu strwythur rheoleiddio addas ar gyfer y cyfryngau cyfathrebu yng Nghymru, ydy: 

  • Newyddion a newyddiaduraeth – ddod i gasgliad clir ynglyn â’r pwerau sydd eisoes yn nwylo Llywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr sy’n ceisio ehangu ystod newyddiaduraeth – a mynd ati i ddefnyddio’r pwerau hynnyyn y tymor hwn, er mwyn cryfhau llais newyddiadurol Cymru ar frys. 
  • Radio Lleol – i fynd ati i sicrhau fod rheoliadau yn ymwneud â radio lleol yn dod yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. 
  • Mynediad i’r  – i fynd ati i sicrhau mai Llywodraeth Cymru sydd o hyn ymlaen yn gyfrifol am yr holl broses yn ymwneud ag isadeiledd a chontractau y  yng Nghymru. 

Yn ôl y Cyngor Cyfarthrebu Cenedlaethol mae’r angen am y tri peth hwn wedi amlygu’u hunain fwyfwy yn ystod y deunaw mis diwethaf ac yn bethau sydd yn greiddiol i’n democratiaeth 

Yn ôl y Cyngor mi fyddai cymryd y tri cam cychwynol hwn yn arwain at genedl a chymunedau mwy democrataiddllais cryfach i bobol Cymru ac adlewyrchiad cywirach o’n hunaniaeth GymreigDywed y Cyngor hefyd y byddai’r cyfraniad i’r economi yn fawr, o symud y pwerau hyn i Gymru. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu: “Hoffwn bwysleisio mai man cychwyn ddylsai hyn fod i’r broses o wella ein gallu fel cenedl i gyfathrebu yn effeithiol, fel cymunedau ac fel cenedlOnd mae e’n fan cychwyn hynod o bwysigByddai cymryd y tri cam hwn yn golygu cymuedau a chenedl gyfoethocach ymhob ystyr o’r gair ac mi all arwain at lu o ddatblygiadau pellach, er gwell 

Mae’n amwlg hefyd y byddai democratiaeth ar ei ennill gyda mwyfwy o bobol yn dod i ddeall y gwahaniaethau rhwng Cymru a gweddill gwledydd ynysoedd Prydain. Gyda’r eglurdeb hwnnw daw diddordeb a dealltwriaeth bellach. Byddai ein gwleiyddion a’u polisiau hefydar bob lefelyn cael eu craffu arnynt yn well gan arwain at fwy o atebolrwydd ac felly gwleidyddiaeth well.  

“Mae pobol wedi bod yn awchu am orsafoedd radio syddo’u naturyn cynrychioli eu cymunedaurhywbeth sydd yn amhosibl tra bod rheoleiddio yn nwylo gwlad arall sydd yn bodloni ar gael cwmniau yn Llundain yn rhedeg ein gorsafoed lleol.” 

“Ac yn grisial ar hyn oll mae angen rhoi diwedd ar sefyllfa ble mae gan rai fynediad arbennig i’r  tra bod eraill heb fynediad o gwbwlPolisi pwrpasol yw hwn gan Lywodraeth Lloegr. Does dim rhaid iddi fod fel hynOnd i newid y drefn rhaid i Lywodraeth Cymru gael y pwerau er mwyn gallu gwneud y penderfyniad i sicrhau mynediad i’r  i bawbble bynnag yr ydym yn byw.” 

Diwedd 

Datganiad i’r Wasg
Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
13/11/2020

Problem y Cyfryngau … a’r ateb iddo 

Mewn ymateb i ddatganiad gan Aelod o’r Senedd ddoe, mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn honni bod ganddynt yr ateb credadwy i fater sydd yn eu tyb hwy yn parhau i ddifetha ein hunaniaeth fel cenedl – sef gwendid ein cyfryngau.   

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi nodi ei bod yn adeg ble mae diddordeb gwirioneddol gan bobl Cymru yn natganiadau ein Llywodraeth ac mewn deall y gwahaniaethau rhyngom a gwledydd eraill, ond nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyfryngau. 

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi nodi mai rhywbeth i’w ddathlu yw’r diddordeb lawr gwlad hwn a’i fod yn glir fod angen i newid ddod ar frys.  

Gwnaeth Delyth Jewell AS sylwadau ddoe mai gwendid y cyfryngau presennol yng Nghymru yw ei bod wedi arwain at ‘ddiffyg democrataidd annerbyniol ac anghynaladwy’ ac nad oes gan y mwyafrif ohonom wybodaeth sylfaenol am Lywodraeth Cymru hyd yn oed. 

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi ymateb trwy ddweud eu bod yn credu’n gryf bod problemau o’r fath yn gwbl anochel ac y byddant yn parhau tra bydd cwmnïau a llywodraeth gwlad arall yn penderfynu ar yr holl benderfyniadau a rheoleiddio ar gyfer ein cyfryngau yng Nghymru.  

Yn ôl y Cyngor Cyfathrebu, y mater wrth wraidd hyn yw mai’r fersiwn ohoni ei hun mae Cymru yn ei derbyn i raddau helaeth ydy’r un sydd yn cael ei hidlo o bersbectif cyfryngau sy’n eiddo i Loegr. Yr eithriad yw, ein cyfryngau Cymraeg eu hiaith (ond nid bob un). Er gwaethaf unrhyw lwyddiannau ôl-ddatganoli a chyfrifoldebau cynyddol Llywodraeth Cymru, prin yw’r sylw, os o gwbl, y gellir ei ddisgrifio fel newyddiaduraeth ag ymyl caled lle gellir gweld olwynion democratiaeth yn troi. 

Cred y Cyngor fod gan Lywodraeth Cymru ran hanfodol i’w chwarae wrth gywiro’r anghydbwysedd hwn ac y dylid rhoi unrhyw bryderon ynghylch ymwneud â phrosiect cyfryngau o’r neilltu.  

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol: “Rydym yn galw ar ein Llywodraeth i gefnogi datganoli pob pŵer dros ddarlledu a chynorthwyo i greu prosiect cyfryngau o ansawdd cychwynnol i’n cenedl ar draws pob platfform lle mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru… ac i Gymru. 

 “Mae’n hanfodol bod y cyfryngau yng Nghymru, yn yr iaith Saesneg yn ogystal ag ein cyfryngau Cymraeg, yn dod yn gyfryngau Cymreig go iawn. Blaenoriaethau cyffredinol cwmnïau o Loegr ac America – sy’n gwasanaethu eu cynnwys i ni – yw parhau eu helw a pheidio â sicrhau bod gan Gymru strwythur cyfryngau sy’n adlewyrchu ei balchder a’i huchelgeisiau fel cenedl. 

“Mae argyfwng Covid-19 wedi dangos yr anawsterau yn berffaith yn yr ystyr bod dull strategol Llywodraeth Cymru wedi cael ei wasanaethu’n wael gan gwmnïau cyfryngau o Loegr sy’n cyhoeddi ac yn darlledu yng Nghymru ac sydd wedi drysu’r neges yn rheolaidd heb feddwl am y gwahaniaethau sylweddol o safbwynt polisi sy’n berthnasol mewn cenedl ddatganoledig. Os oes unrhyw beth erioed wedi tynnu sylw at yr angen i rywbeth gael ei wneud i gyfreithloni ein tirwedd cyfryngau yr ochr hon i’r ffin, yna dyma ydyw mae’n siŵr.” 

“Byddai angen i’w ymreolaeth a’i annibyniaeth fod – a chael ei weld i fod – yn ‘sanctaidd’ ar draws y sbectrwm gwleidyddol gyda dyfeisiau dibynadwy ar waith i sicrhau y gallai adrodd mor ddiduedd ag unrhyw asiantaeth allanol. Mae’r realiti masnachol yn mynnu na all hyn bellach gael ei wneud yn llwyddiannus yn gyfan gwbl fel menter fusnes. Ond nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn lleihau ei bwysigrwydd brys i’n dyfodol. 

“Ni fyddai’n rhaid i unrhyw genedl arall hyd yn oed ystyried na mynnu datrysiad mor amlwg. 

Dywedodd aelod arall o’r Cyngor: “Yr hyn sy’n bosibl yw bod gennym ni gyfryngau Cymru yng Nghymru sy’n ymwneud yn effeithiol â’r sefyllfa sy’n bodoli yma – un sy’n dwyn ein Llywodraeth i gyfrif ac yn gwneud cymaint o bethau eraill. Ond i ddechrau gwneud hyn yn bosibl mae yna bethau sylfaenol sydd yn RHAID digwydd. Rhaid datganoli rheolaeth dros ddarlledu i’r wlad hon a sefydlu cynllun difrifol ac ymarferol i adeiladu cyfryngau gwerth chweil ar draws pob platfform yng Nghymru. Mae popeth yn bosibl wedyn – ond rhaid cychwyn yno. 

“Mae ein Prif Weinidog wedi lleisio ei bryderon sawl gwaith … mae’n bryd bellach i’w Lywodraeth flaenoriaethu gweithredu.” 

2020-05-20 Rheoliadau Darparwyr Newyddion

Diwedd

Datganiad i’r Wasg
Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
08/06/2020

Y Cyngor Cyfathrebu yn Cyhoeddi Rheoliadau Newydd Angenrheidiol ar gyfer Llwyfannau Newyddion

Heddiw, mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, corff a sefydlwyd i ddatblygu rheoliadau ar gyfer darlledu yng Nghymru, wedi cyhoeddi pedwar o reoliadau newydd y dylai pob darparydd newyddion, sydd yn darlledu neu gyhoeddi yng Nghymru, eu dilyn.

Ers ei sefydlu fis Awst y llynedd bu’r Cyngor yn gweithio ar lunio côd darlledu a chyhoeddi newydd sy’n addas i anghenion diwylliannol a gwleidyddol Cymru, yn ogystal â diogelu hawliau sylfaenol ei thrigolion, cynnal safonau a sicrhau tegwch.

Yn ôl y Cyngor Cyfathrebu, mae’r cyfnod dan glo presennol oherwydd Covid-19 wedi dangos yn eglur, unwaith eto, y diffygion a’r anwybodaeth sydd yna yn y cyfryngau Prydeinig ynglŷn â bodolaeth Cymru fel cenedl yn ogystal a datganoli gwleidyddol.

Oherwydd hynny mae’r Cyngor Cyfathrebu yn datgan bod angen sefydlu pedwar o reoliadau newydd ar frys er mwyn iechyd a diogelwch pobl Cymru, sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn y wybodaeth gywir, ac er lles a datblygiad democratiaeth y genedl.

Byddai’r rheoliadau’n berthnasol i’r rhai sy’n darlledu newyddion yng Nghymru, ar deledu, radio ac yn y wasg argraffedig a’u gwefannau.

Mae’r pedair rheol yn cynnwys*:
1. Rhaid i ddarlledwyr newyddion fod yn berffaith glir am y gyfraith fel y mae yng Nghymru
2. Rhaid i newyddion am faterion cyfoes pedair gwlad arall Ynysoedd Prydain beidio â rhoi mwy o sylw i un o’r gwledydd na’r lleill
3. Rhaid i newyddion rhyngwladol beidio â rhoi mwy o sylw i genhedloedd Saesneg eu hiaith y byd na gwledydd eraill y byd
4. Wrth ddarparu unrhyw newyddion o San Steffan, law yn llaw â hynny rhaid darparu’r newyddion ar y pwnc hwnnw fel ag y mae yn ein sefydliadau democrataidd ni – boed hynny yn y Senedd neu yn ein Hawdurdodau Lleol neu yn ein Cynghorau Cymuned/Tref.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor:
“Mae’r rheoliadiau fel ag y maen nhw yn gwbwl anaddas. Maen nhw’n peryglu bywydau ein dinasyddion. Mae yn wastad wedi bod angen am ddiwygio’r rheoliadau, ac mae hyn wedi cael ei amlygu ymhellach yn ystod y pandemig hwn. Heb ddiwygio y rheoliadau mae ein democratiaeth mewn perygl mawr.

Rydym felly yn galw ar ein Llywodraeth a’n Senedd i symud ymlaen â’r rheoliadau hyn ar frys. Mae’n debygol iawn y byddai angen i ni ddatganoli pwerau darlledu i Gymru er mwyn cyflawni’r rhain. Felly mae angen i ni symud yn gyflym.”

-Diwedd-
*Nodyn i’r Golygydd: gweler eiriad llawn y rheoliadau a’u dibenion ynghlwm isod.

CYM – Rheoliadau Newyddion