Y Bwrdd

Cafodd naw o aelodau eu hethol i’r Bwrdd yn 2022-2023. Mae’r broses enwebu yn digwydd bob Gorffennaf-Awst.

Mae lle i 8 – 12 o aelodau ar y Bwrdd.  

Aelodau a Enwebwyd i’r Bwrdd 2022-2023

Angharad Mair Cyflwynydd teledu, colofnydd, cyn-athletwraig ac un o gyfarwyddwyr cwmni Tinopolis ydy Angharad Mair. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, dechreuodd ei gyrfa gyda’r BBC. Yn 1990 dechreuodd weithio i gwmni teledu Agenda, yn cyflwyno’r rhaglen deledu cylchgrawn Heno ar S4C.  Mae Angharad yn rhedeg marathonau. Cystadlodd ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd yn Athens yn 1997. 

Barrie JonesMae Barrie Jones yn gyn Gyfarwyddwr Golygyddol a Phrif Olygydd NWN Media, gyda chyfrifoldeb am eu papurau newydd dyddiol, wythnosol a’i wefannau a’r draws y gogledd a’r canolbarth. Mae ar hyn o bryd yn gweithio fel Uwch Olygydd Ymgynghorol papur ‘Y Cymro’ ac mae’n cyfrannu’n achlysurol ar Radio Cymru. Mae ganddo brofiad dros bedwar degawd mewn newyddiaduraeth a bu’n olygydd y papur dyddiol ‘The Leader‘ yn y Gogledd Ddwyrain a Swydd Gaer Lloegr am gyfnod helaeth. Sefydlodd gwrs mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a chafodd ei ethol i fwrdd rheoli Cymdeithas Golygyddion Prydain. 

Beti GeorgeDechreuoedd ei gyrfa fel gohebydd i’r BBC yn Abertawe. Cyflwynodd raglenni Heddiw a Newyddion am flynyddoedd ac hefyd rhaglenni cerdd a dogfen. Mae’n gyflwynydd llwyfan Cystadleuaeth Canwr y Byd ac yn gyflwynydd rhaglen Radio Cymru – Beti a’i Phobl – a ddechreuodd ym 1985. Mi wnaeth raglenni radio a theledu ar Dementia i S4C ac i’r BBC. Ennillod un o’r rheiny – David and Beti: Lost for Words fedal aur yng Ngwyl Ffilmiau Efrog Newydd. Mae hi’n Gymrawd ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol De Cymru. Yn 2022 dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddi gan Brifysgol Abertawe.

Bethan Jones Parry  – ‘Yr hogan ‘na o Eifionydd’ yn ôl John Roberts Williams. Yn newyddiadura, darlledu, ysgrifennu, cyflwyno, arwain, cadeirio a dysgu ers y ganrif ddiwethaf. 

Betsan Powys  – Ymunodd Betsan Powys â BBC Cymru fel newyddiadurwraig hyfforddedig ym 1989, cyn ymuno â’r ystafell newyddion yng Nghaerdydd fel gohebydd dwy-ieithog aml-gyfryngau. Symudodd i adrodd ar faterion cyfoes ym 1994. Dechreuodd Betsan Powys gyflwyno ar raglen Newyddion ar S4C, fel prif ohebydd materion cyfoes Ewrop yn y gyfres Ewropa, ac ymunodd â Huw Edwards i gyflwyno rhaglenni arbennig yr etholiadau yn y Deyrnas Unedig. Daeth nôl o Lundain i Gaerdydd i weithio i BBC Cymru cyn cael ei phenodi’n Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru. Penodwyd Betsan fel Golygydd BBC Radio Cymru ble y bu am bum mlynedd tan 2018. Hi bellach yw cyflwynydd Pawb a’i Farn.   

Euros LewisEuros Lewis yw sefydlydd cwmni cynhyrchu Wes Glei. Mae’n gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd ac yn awdur sgriptiau.  Mae e’n gerddor dawnus. 

Marc WebberMae gan Marc bron 30 mlynedd o brofiad yn y cyfryngau. O Ben-y-Bont-ar-Ogwr yn wreiddiol, dechreuodd ei yrfa fel sylwebydd chwaraeon ar Red Dragon Radio yn Nghaerdydd. Mae wedi bod yn Bennaeth Cynnwys ITV.com, golygydd fideo aml-blatfform PA ac hefyd gweithio ar FT, LBC, The Sun a France 24. Mae e hefyd wedi bod ymgynghorydd digidol gyda UTV, rhan pwyllgor digidol S4C a barnwr Gwŷl Cyfryngau Celtaidd. Ar hyn o bryd, mae’n weithio fel uwch darlithydd mewn newyddiaduraeth yn Mhrifysgol Northampton ac fel gohebydd pêl-droed ar ran theledu a radio BBC.  

Sharon MorganMae Sharon Morgan yn actores ac yn sgriptwraig sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA. Mae hi wedi’i henwebu i fod ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymru Equity 2021-2023.  Yn ystod ei gyrfa, mae wedi ymddangos mewn nifer fawr o gynhyrchiadau llwyfan, o raglenni teledu ac o ffilmiau – mae’r rhestr yn hirfaith. Roedd Sharon Morgan yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu dramâu gan gynnwys Ede Hud a Holl Liwie’r Enfys, ac wedi cyfieithu rhai i’r Gymraeg – Shinani’n Siarad –cyfieithiad oVagina Monologues gan Eve Ensler a Gobeithion Gorffwyll, cyfieithiad o Une Femme Rompue gan Simone de Beauvoir.  

Mae ei hymddangosiadau ffilm a theledu yn cynnwys rhannau yn:  

Gadael Lenin; Martha Jac a Sianco; High Hopes; Doctors; Belonging; Yr Amgueddfa; Yr Heliwr; A Mind to Kill; Belonging; Doctors; Midsomer Murders; Casualty; Pobol y Cwm; Coronation Street; Caerdydd; Alys; Pleasure Pill; Tair Chwaer; Torchwood; Resistance; Hollyoaks Later; Da Vinci’s Demons; the Magnificent Evans; 35 Diwrnod; Apostle; Y Gwyll/Hinterland; 15 Days; Gangs of London; Holby City; The Tuckers; yr Amgueddfa; a Grand Slam. 

Mae ei hymddangosiadau llwyfan yn cynnwys:  

House of America; The Myth of Michael Roderick (Y Cwmni); Adar Heb Adenydd (Dalier Sylw ); Flowers From Tunisia (Theatr y Byd); Angels don’t Need Wings (Hi-Jinx); Mother Courage (NTW); Pornography (Waking Exploits); Utah Bride/ Priodferch Utah (Theatr Gwalia); Ede Hud; Holl Liwie’r Enfys; Trafaelu Ar y Tren Glas; Shinani’n Siarad (Rhosys Cochion); Uncle Vanya (Theatr Clwyd); a A Good Night Out In The Valleys (National Theatre Wales).  

Mae Sharon Morgan wedi cyhoeddi ei hunangofiant mewn dau ran, Hanes Rhyw Gymraes, ac Acotres a Mam. 

Siwan Jobbins

Mae Siwan yn arbenigo mewn darlledu plant, animeiddio a chyfryngau cymysg, mae hi wedi gweithio ar brosiectau arloesol a chynyrchiadau arobryn yng Nghymru, yng ngwledydd eraill ynysoedd Prydain yn ogystal ag ymhellach yn rhyngwladol. Yn rhedwr sioe, gweithredwr a chynhyrchydd creadigol profiadol, mae hi wedi bod yn botsiar a chiper, gan weithio mewn rolau rheoli a chreadigol i ddarlledwyr a chwmnïau cynhyrchu annibynnol. Arbenigeddau: Datblygu, rhedeg sioeau, cynhyrchu, cynhyrchu gweithredol, ysgrifennu sgriptiau, ariannu cynyrchiadau, caffael, cyfarwyddo llais.