CYM – Rheoliadau Newyddion

Rheoliadau Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn Benodol Parthed y Newyddion ar y Teledu, ar y Radio, yn y Wasg Brintiedig a’u Safleoedd Gwê. 

  1. Mae rhaid i newyddion yn y cyfryngau,  sydd yn cael ei ddarlledu i Gymru ac yng Nghymru, nodi’r rheoliadau am y pwnc o dan sylw fel sydd yn wir yng Nghymru.  

Os nodir rheoliadau gwledydd eraill hefyd, rhaid nodi hynny’n glir.  

Os yn adrodd am reoliadau sydd ddim yn weithredol yng Nghymru, rhaid nodi ym mha wlad/wledydd y maent yn weithredol a rhaid nodi beth yw’r rheoliad(au) cyfatebol sydd i’w gael yng Nghymru. Rhaid i’r rheswm dros sôn am reoliadau’r wlad arall fod yn amlwg ac yn glir a rhaid i’r rheswm fod o bwys. 

PWRPAS Y RHEOLIAD: SICRHAU CYFLWYNO GWYBODAETH GYWIR I’R GYNULLEIDFA; ER LLES DEMOCRATIAETH; I DDADWNEUD DEGAWDAU O DDIFFYG ADRODD. 

2. Mae rhaid i newyddion sy’n cael ei adrodd am wledydd eraill ynysoedd Prydain  yn y cyfryngau,  sydd yn cael ei ddarlledu i Gymru ac yng Nghymru, dalu sylw i’r sefyllfaoedd ymhob un o wledydd eraill ynysoedd Prydain, heblaw bod rheswm teilwng dros roi mwy o sylw i reoliad yn un o’r gwledydd uwchlaw y lleill.  

Er enghraifft, os adroddir ar reoliadau ym maes addysg yn Lloegr, rhaid nodi beth yw’r sefyllfa yng ngwledydd eraill ynysoedd Prydain yn hynny o beth. Yn yr un modd, os oes datblygiad ym maes yr economi yn yr Alban dyweder, rhaid pwyso a mesur beth yw’r polisiau cyfatebol yng ngwledydd eraill ynysoedd Prydain. 

PWRPAS Y RHEOLIAD: I SICRHAU NAD LLOEGR YW’R WLAD SY’N CAEL EI CHYFLWYNO FEL ‘Y NORM’ Y DYLID FOD YN TYNNU CYMHARIAETHAU Â HI. ER BOD YR ALBAN WEDI CAEL EI DEFNYDDIO FEL ENGHRAIFFT YMA, Y MAE ANGEN SYMUD ODDI WRTH YR ARFERIAD PRESENNOL O DYNNU CYMHARIAETHAU GYDA LLOEGR YN UNIG.

3. Ni ddylid talu mwy o sylw, wrth drafod materion rhyngwladol (y tu allan i wledydd eraill ynysoedd Prydain), i’r gwledydd hynny sydd â’r Saesneg yn brif iaith iddynt o gymharu â gwledydd eraill,  heblaw bod rheswm teilwng dros wneud hynny. 

Er enghraifft, pam y dylid adrodd ar yr hyn sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau, tra yn sôn dim am yr Almaen, Ffrainc, Sweden a Norwy.  

PWRPAS Y RHEOLIAD: I SICRHAU NAD YW’R GYNULLEIDFA YN CAEL EU HARWAIN I GREDU FOD GWLEDYDD Y BYD SYDD Â’R SAESNEG YN BRIF IAITH IDDYNT, UNRHYW FAINT YN BWYSICACH NA GWLEDYDD ERAILL. MAE ANGEN Y RHEOLIAD HWN ER MWYN DAD-WNEUD CANRIFOEDD O GOLONEIDDIO.  MAE CYFRIFOLDEB AR EIN DARLLEDWYR YMA I GYNORTHWYO I DDADGOLONEIDDIO EIN CENEDL AC I SICRHAU EIN DATBLYGIAD FEL POBL Â MEDDYLIAU RHYDD, RHYNGWLADOL. 

 

4. Os darlledir newyddion gwleidyddol o Loegr (San Steffan) sydd yn ymwneud â Chymrusydd yn cael ei ddarlledu i Gymru ac yng Nghymrurhaid treulio’r un faint o amser yn adrodd am yr hyn sydd yn digwyddparthed yr un maesyn ein sefydliadau democratiadd yma yng Nghymru (Senedd/Awdurdodau Lleol/Cynghorau Bro a Thref). Er enghraifftos yn adrodd am 3 munud am yr hyn sydd yn digwydd yn San Steffan parthed Brexit, byddai rhaid treulio 3 munud yn trafod yr hyn sydd yn/wedi digwydd yn ein sefydliadau democrataidd ni parthed Brexit.  

 

PWRPAS Y RHEOLIAD: ER MWYN SICRHAU BOD Y GYNULLEIDFA YN YMWYBODOL O’R HYN SY’N DIGWYDD YN Y SENEDD AC YN EIN CANOLFANNAU DEMOCRATAIDD ERAILL; I GANIATAU CRAFFU A DWYN I GYFRIF; ER MWYN CREU YMWYBYDDIAETH FOD EIN PRIF GANOLFANAU DEMOCRATAIDD YN EIN HAWDURDODAU LLEOL, YN EIN CYNGHORAU CYMUNED A THREF AC YN EIN SENEDD, AC NID YN SAN STEFFAN.