DATGANIAD CENHADAETH Y CYNGOR CYFATHREBU CENEDLAETHOL
Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn gweithio ar ddatblygu strwythur rheoleiddio addas ar gyfer y cyfryngau cyfathrebu yng Nghymru.
Mi fydd y Cyngor yn datblygu polisi a syniadau yn y maes cyfryngau, cyfathrebu a darlledu.
Mi fydd y Cyngor yn llunio’r camau sydd rhaid eu cymryd yn y broses o ddatganoli cyfrifoldebau rheoleiddio i Gymru, ym maes cyfryngau, cyfathrebu a darlledu.
Mae gwir ddemocratiaeth, tryloywder, gwirionedd a thegwch yn ganolog i weledigaeth y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.
CYFANSODDIAD Y CYNGOR CYFATHREBU CENEDLAETHOL
1.ENW:
1.1 Enw’r Cyngor fydd y ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’. Yn Saesneg: ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol – National Communications Council’
2. AMCANION:
2.1 I sefydlu rheoliadau ym maes cyfathrebu, darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y meysydd hyn: teledu, radio, y wasg brintiedig, y wê ac ardoll, mynediad i’r wê.
3. AELODAETH Y BWRDD:
3.1 Bydd 10 aelod ar Fwrdd y Cyngor. Enwebir hwy gan bobol Cymru. Os enwebir mwy na 10, cynhelir pleidlais gudd, ar-lein gyda chyfnod o bythefnos rhwng cyhoeddi’r enwebiadau a chau y cyfnod pleidleisio.
3.2 Os enwebir llai na 10, ni fydd angen cynnal pleidlais, ond bydd dyddiadau cau enwebiadau yn sefyll.
3.3 Bydd y 10 aelod o’r Cyngor yn dewis Cadeirydd yn eu cyfarfod cyntaf, neu yn penderfynu ar ffordd amgen o weithio. Bydd hefyd angen penodi rhywun i fod yn gyfrifol am y wefan a’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, bydd angen Ysgrifenydd a Thrysorydd, neu meddwl am ffordd amgen o weithio.
3.4 Ni dderbynnir enwebiadau pobol sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol.
3.5 Bydd aelodau’r Bwrdd yn gweithredu yn unol â’r Cyfansoddiad.
4. CYFARFODYDD:
4.1 Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb, trwy ddulliau o bell neu fel ymarferiad allweddell.
4.2 Cynhelir tri i bedwar cyfarfod llawn yn flynyddol.
4.3 Gosodir yr agenda gan y Cadeirydd, ar ôl ymgynghoriad gyda’r aelodau eraill ymlaen llaw.
4.4 Rhaid i aelodau ddatgan unrhyw ddiddordeb personol mewn unrhyw bwnc a drafodir a pheidio pleidleisio os oes yna wrthdrawiad diddordeb.
4.5 Bydd angen cworwm o 5 cyn i benderfyniad gael ei basio.
4.6 Gellir dirprwyo trafodaeth ar bwnc penodol i is-bwyllgor, a fydd yn adrodd nôl i Fwrdd y Cyngor llawn. Gall is-bwyllgor gyflwyno argymhellion ond ni all wneud benderfyniad ar ran Bwrdd y Cyngor llawn. Bydd Bwrdd y Cyngor yn cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer unrhyw ddirprwyaeth o’r fath.
5. DULLIAU:
5.1 Bydd y Cyngor yn gweithredu ar sail gweithredu ar-y-cyd.
5.2 Bydd yn gweithredu ar sail egwyddorion cyfrifoldeb cyfunol, cefnogaeth a pharch ac ni fydd yn gwahaniaethu ar sail un o’r nodweddion gwarchodedig sydd yn y Ddeddf Gydraddoldeb 2010.
5.3 Anelir at ddod i gonsensws.
5.4 Ni fydd barn lleiafrifol yn cael ei wneud yn gyhoeddus.