Sefydliad Materion Cymreig – ‘Media Audit 2008’ ac wedyn 2015. Rhain ydi’r adroddiadau mwya cynhwyfawr sy’n cynnwys pob elfen o’r cyfryngau yng Nghymru yn cynnwys newyddiaduraeth. Mae yna ddiweddariad arall yn cael ei gyhoeddi eleni ym mis Mehefin efo’r drafft cyntaf i fod i weld golau dydd ganol Mawrth 

Is-Bwyllgor Darlledu Cynulliad – ymchwilaid ‘Y Diwydiant Papurau Newydd yng Nghymru’ – Mehefin 2009 

Tasglu Comisiwn y Cynulliad ar Newyddion Digidol a Gwybodaeth 2017 – ‘Creu Deialog Digidol’ dan gadeiryddiaeth Leighton Andrews 

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd wedi cynnal sawl ymchwiliad i faes cyfryngu sy’n cynnwys rhannau am y wasg, ac mae un adroddiad arbennig yn 2018 – ‘Penawdau’– yn ymchwiliad i newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru.  

Yn Brydeinig cyhoeddwyd Adolygiad Cairncross yn Chwefror 2019Roedd yn adroddiad cynhwysfawr gan yr academydd a’r newyddiadurwraig Dame Frances Cairncross. Mi gath ei lunio ar gais Prif Weinidog y Deyrnas Unedig oedd yn poeni pa mor gynaldwy oedd y diwydiant newyddion yn yr oes ddigdiol. Mi nath yr adroddiad 157 tudalen 9 argymhelliad oedd a’r potensial i wella y rhagolygon ar gyfer newyddiaduraeth o safonYn eu plith roedd creu corff newydd –  Y Sefydliad Newyddion Budd Cyhoedduscronfa ar  gyfer mentrau newydd a manteision treth