Datganiad i’r Wasg
Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
13/11/2020

Problem y Cyfryngau … a’r ateb iddo 

Mewn ymateb i ddatganiad gan Aelod o’r Senedd ddoe, mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn honni bod ganddynt yr ateb credadwy i fater sydd yn eu tyb hwy yn parhau i ddifetha ein hunaniaeth fel cenedl – sef gwendid ein cyfryngau.   

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi nodi ei bod yn adeg ble mae diddordeb gwirioneddol gan bobl Cymru yn natganiadau ein Llywodraeth ac mewn deall y gwahaniaethau rhyngom a gwledydd eraill, ond nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyfryngau. 

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi nodi mai rhywbeth i’w ddathlu yw’r diddordeb lawr gwlad hwn a’i fod yn glir fod angen i newid ddod ar frys.  

Gwnaeth Delyth Jewell AS sylwadau ddoe mai gwendid y cyfryngau presennol yng Nghymru yw ei bod wedi arwain at ‘ddiffyg democrataidd annerbyniol ac anghynaladwy’ ac nad oes gan y mwyafrif ohonom wybodaeth sylfaenol am Lywodraeth Cymru hyd yn oed. 

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi ymateb trwy ddweud eu bod yn credu’n gryf bod problemau o’r fath yn gwbl anochel ac y byddant yn parhau tra bydd cwmnïau a llywodraeth gwlad arall yn penderfynu ar yr holl benderfyniadau a rheoleiddio ar gyfer ein cyfryngau yng Nghymru.  

Yn ôl y Cyngor Cyfathrebu, y mater wrth wraidd hyn yw mai’r fersiwn ohoni ei hun mae Cymru yn ei derbyn i raddau helaeth ydy’r un sydd yn cael ei hidlo o bersbectif cyfryngau sy’n eiddo i Loegr. Yr eithriad yw, ein cyfryngau Cymraeg eu hiaith (ond nid bob un). Er gwaethaf unrhyw lwyddiannau ôl-ddatganoli a chyfrifoldebau cynyddol Llywodraeth Cymru, prin yw’r sylw, os o gwbl, y gellir ei ddisgrifio fel newyddiaduraeth ag ymyl caled lle gellir gweld olwynion democratiaeth yn troi. 

Cred y Cyngor fod gan Lywodraeth Cymru ran hanfodol i’w chwarae wrth gywiro’r anghydbwysedd hwn ac y dylid rhoi unrhyw bryderon ynghylch ymwneud â phrosiect cyfryngau o’r neilltu.  

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol: “Rydym yn galw ar ein Llywodraeth i gefnogi datganoli pob pŵer dros ddarlledu a chynorthwyo i greu prosiect cyfryngau o ansawdd cychwynnol i’n cenedl ar draws pob platfform lle mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru… ac i Gymru. 

 “Mae’n hanfodol bod y cyfryngau yng Nghymru, yn yr iaith Saesneg yn ogystal ag ein cyfryngau Cymraeg, yn dod yn gyfryngau Cymreig go iawn. Blaenoriaethau cyffredinol cwmnïau o Loegr ac America – sy’n gwasanaethu eu cynnwys i ni – yw parhau eu helw a pheidio â sicrhau bod gan Gymru strwythur cyfryngau sy’n adlewyrchu ei balchder a’i huchelgeisiau fel cenedl. 

“Mae argyfwng Covid-19 wedi dangos yr anawsterau yn berffaith yn yr ystyr bod dull strategol Llywodraeth Cymru wedi cael ei wasanaethu’n wael gan gwmnïau cyfryngau o Loegr sy’n cyhoeddi ac yn darlledu yng Nghymru ac sydd wedi drysu’r neges yn rheolaidd heb feddwl am y gwahaniaethau sylweddol o safbwynt polisi sy’n berthnasol mewn cenedl ddatganoledig. Os oes unrhyw beth erioed wedi tynnu sylw at yr angen i rywbeth gael ei wneud i gyfreithloni ein tirwedd cyfryngau yr ochr hon i’r ffin, yna dyma ydyw mae’n siŵr.” 

“Byddai angen i’w ymreolaeth a’i annibyniaeth fod – a chael ei weld i fod – yn ‘sanctaidd’ ar draws y sbectrwm gwleidyddol gyda dyfeisiau dibynadwy ar waith i sicrhau y gallai adrodd mor ddiduedd ag unrhyw asiantaeth allanol. Mae’r realiti masnachol yn mynnu na all hyn bellach gael ei wneud yn llwyddiannus yn gyfan gwbl fel menter fusnes. Ond nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn lleihau ei bwysigrwydd brys i’n dyfodol. 

“Ni fyddai’n rhaid i unrhyw genedl arall hyd yn oed ystyried na mynnu datrysiad mor amlwg. 

Dywedodd aelod arall o’r Cyngor: “Yr hyn sy’n bosibl yw bod gennym ni gyfryngau Cymru yng Nghymru sy’n ymwneud yn effeithiol â’r sefyllfa sy’n bodoli yma – un sy’n dwyn ein Llywodraeth i gyfrif ac yn gwneud cymaint o bethau eraill. Ond i ddechrau gwneud hyn yn bosibl mae yna bethau sylfaenol sydd yn RHAID digwydd. Rhaid datganoli rheolaeth dros ddarlledu i’r wlad hon a sefydlu cynllun difrifol ac ymarferol i adeiladu cyfryngau gwerth chweil ar draws pob platfform yng Nghymru. Mae popeth yn bosibl wedyn – ond rhaid cychwyn yno. 

“Mae ein Prif Weinidog wedi lleisio ei bryderon sawl gwaith … mae’n bryd bellach i’w Lywodraeth flaenoriaethu gweithredu.” 

2020-05-20 Rheoliadau Darparwyr Newyddion

Datganiad i’r Wasg
Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
08/06/2020

Y Cyngor Cyfathrebu yn Cyhoeddi Rheoliadau Newydd Angenrheidiol ar gyfer Llwyfannau Newyddion

Heddiw, mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, corff a sefydlwyd i ddatblygu rheoliadau ar gyfer darlledu yng Nghymru, wedi cyhoeddi pedwar o reoliadau newydd y dylai pob darparydd newyddion, sydd yn darlledu neu gyhoeddi yng Nghymru, eu dilyn.

Ers ei sefydlu fis Awst y llynedd bu’r Cyngor yn gweithio ar lunio côd darlledu a chyhoeddi newydd sy’n addas i anghenion diwylliannol a gwleidyddol Cymru, yn ogystal â diogelu hawliau sylfaenol ei thrigolion, cynnal safonau a sicrhau tegwch.

Yn ôl y Cyngor Cyfathrebu, mae’r cyfnod dan glo presennol oherwydd Covid-19 wedi dangos yn eglur, unwaith eto, y diffygion a’r anwybodaeth sydd yna yn y cyfryngau Prydeinig ynglŷn â bodolaeth Cymru fel cenedl yn ogystal a datganoli gwleidyddol.

Oherwydd hynny mae’r Cyngor Cyfathrebu yn datgan bod angen sefydlu pedwar o reoliadau newydd ar frys er mwyn iechyd a diogelwch pobl Cymru, sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn y wybodaeth gywir, ac er lles a datblygiad democratiaeth y genedl.

Byddai’r rheoliadau’n berthnasol i’r rhai sy’n darlledu newyddion yng Nghymru, ar deledu, radio ac yn y wasg argraffedig a’u gwefannau.

Mae’r pedair rheol yn cynnwys*:
1. Rhaid i ddarlledwyr newyddion fod yn berffaith glir am y gyfraith fel y mae yng Nghymru
2. Rhaid i newyddion am faterion cyfoes pedair gwlad arall Ynysoedd Prydain beidio â rhoi mwy o sylw i un o’r gwledydd na’r lleill
3. Rhaid i newyddion rhyngwladol beidio â rhoi mwy o sylw i genhedloedd Saesneg eu hiaith y byd na gwledydd eraill y byd
4. Wrth ddarparu unrhyw newyddion o San Steffan, law yn llaw â hynny rhaid darparu’r newyddion ar y pwnc hwnnw fel ag y mae yn ein sefydliadau democrataidd ni – boed hynny yn y Senedd neu yn ein Hawdurdodau Lleol neu yn ein Cynghorau Cymuned/Tref.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor:
“Mae’r rheoliadiau fel ag y maen nhw yn gwbwl anaddas. Maen nhw’n peryglu bywydau ein dinasyddion. Mae yn wastad wedi bod angen am ddiwygio’r rheoliadau, ac mae hyn wedi cael ei amlygu ymhellach yn ystod y pandemig hwn. Heb ddiwygio y rheoliadau mae ein democratiaeth mewn perygl mawr.

Rydym felly yn galw ar ein Llywodraeth a’n Senedd i symud ymlaen â’r rheoliadau hyn ar frys. Mae’n debygol iawn y byddai angen i ni ddatganoli pwerau darlledu i Gymru er mwyn cyflawni’r rhain. Felly mae angen i ni symud yn gyflym.”

-Diwedd-
*Nodyn i’r Golygydd: gweler eiriad llawn y rheoliadau a’u dibenion ynghlwm isod.

CYM – Rheoliadau Newyddion