DATGANIAD CENHADAETH Y CYNGOR CYFATHREBU CENEDLAETHOL 

 Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn gweithio ar ddatblygu strwythur rheoleiddio addas ar gyfer y cyfryngau cyfathrebu yng Nghymru. 

 Mi fydd y Cyngor yn datblygu polisi a syniadau yn y maes cyfryngau, cyfathrebu a darlledu. 

 Mi fydd y Cyngor yn llunio’r camau sydd rhaid eu cymryd yn y broses o ddatganoli cyfrifoldebau rheoleiddio i Gymru, ym maes cyfryngau, cyfathrebu a darlledu. 

 Mae gwir ddemocratiaeth, tryloywder, gwirionedd a thegwch yn ganolog i weledigaeth y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol. 

 CYFANSODDIAD Y CYNGOR CYFATHREBU CENEDLAETHOL 

1.ENW:  

1.1 Enw’r Cyngor fydd y ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol’. Yn Saesneg: ‘Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol – National Communications Council 

2. AMCANION 

2.1 I sefydlu rheoliadau ym maes cyfathrebu, darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y meysydd hyn: teledu, radio, y wasg brintiedig, y wê ac ardoll, mynediad i’r wê. 

 3. AELODAETH Y BWRDD 

 3.1 Bydd 10 aelod ar Fwrdd y Cyngor. Enwebir hwy gan bobol Cymru. Os enwebir mwy na 10, cynhelir pleidlais gudd, ar-lein gyda chyfnod o bythefnos rhwng cyhoeddi’r enwebiadau a chau y cyfnod pleidleisio.  

 3.2 Os enwebir llai na 10, ni fydd angen cynnal pleidlais, ond bydd dyddiadau cau enwebiadau yn sefyll. 

 3.3 Bydd y 10 aelod o’r Cyngor yn dewis Cadeirydd yn eu cyfarfod cyntaf, neu yn penderfynu ar ffordd amgen o weithio. Bydd hefyd angen penodi rhywun i fod yn gyfrifol am y wefan a’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, bydd angen Ysgrifenydd a Thrysorydd, neu meddwl am ffordd amgen o weithio. 

 3.4 Ni dderbynnir enwebiadau pobol sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol. 

 3.5 Bydd aelodau’r Bwrdd yn gweithredu yn unol â’r Cyfansoddiad. 

 4. CYFARFODYDD: 

 4.1 Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wynebtrwy ddulliau o bell neu fel ymarferiad allweddell.   

 4.2 Cynhelir tri i bedwar cyfarfod llawn yn flynyddol. 

4.3 Gosodir yr agenda gan y Cadeirydd, ar ôl ymgynghoriad gyda’r aelodau eraill ymlaen llaw. 

4.4 Rhaid i aelodau ddatgan unrhyw ddiddordeb personol mewn unrhyw bwnc a drafodir a pheidio pleidleisio os oes yna wrthdrawiad diddordeb. 

4.5 Bydd angen cworwm o 5 cyn i benderfyniad gael ei basio. 

4.6 Gellir dirprwyo trafodaeth ar bwnc penodol i is-bwyllgor, a fydd yn adrodd nôl i Fwrdd y Cyngor llawn. Gall is-bwyllgor gyflwyno argymhellion ond ni all wneud benderfyniad ar ran Bwrdd y Cyngor llawn. Bydd Bwrdd y Cyngor yn cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer unrhyw ddirprwyaeth o’r fath. 

 5. DULLIAU: 

5.1 Bydd y Cyngor yn gweithredu ar sail gweithredu ar-y-cyd. 

5.2 Bydd yn gweithredu ar sail egwyddorion cyfrifoldeb cyfunol, cefnogaeth a pharch ac ni fydd yn gwahaniaethu ar sail un o’r nodweddion gwarchodedig sydd yn y Ddeddf Gydraddoldeb 2010. 

5.3 Anelir at ddod i gonsensws. 

5.4 Ni fydd barn lleiafrifol yn cael ei wneud yn gyhoeddus.