Y Bwrdd
Cafodd naw o aelodau eu hethol i’r Bwrdd yn 2022 – 2023. Mae’r broses enwebu yn digwydd bob mis Gorffennaf-Awst.
Aelodau’r Bwrdd
Angharad Mair – Cyflwynydd teledu, colofnydd, cyn-athletwraig ac un o gyfarwyddwyr cwmni Tinopolis ydy Angharad Mair. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, dechreuodd ei gyrfa gyda’r BBC. Yn 1990 dechreuodd weithio i gwmni teledu Agenda, yn cyflwyno’r rhaglen deledu cylchgrawn Heno ar S4C. Mae Angharad yn rhedeg marathonau. Cystadlodd ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd yn Athens yn 1997.
Barrie Jones – Mae Barrie Jones yn gyn Gyfarwyddwr Golygyddol a Phrif Olygydd NWN Media, gyda chyfrifoldeb am eu papurau newydd dyddiol, wythnosol a’i wefannau a’r draws y gogledd a’r canolbarth. Mae ar hyn o bryd yn gweithio fel Uwch Olygydd Ymgynghorol papur ‘Y Cymro’ ac mae’n cyfrannu’n achlysurol ar Radio Cymru. Mae ganddo brofiad dros bedwar degawd mewn newyddiaduraeth a bu’n olygydd y papur dyddiol ‘The Leader‘ yn y Gogledd Ddwyrain a Swydd Gaer Lloegr am gyfnod helaeth. Sefydlodd gwrs mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a chafodd ei ethol i fwrdd rheoli Cymdeithas Golygyddion Prydain.
Beti George – Dechreuoedd ei gyrfa fel gohebydd i’r BBC yn Abertawe. Cyflwynodd raglenni Heddiw a Newyddion am flynyddoedd ac hefyd rhaglenni cerdd a dogfen. Mae’n gyflwynydd llwyfan Cystadleuaeth Canwr y Byd ac yn gyflwynydd rhaglen Radio Cymru – Beti a’i Phobl – a ddechreuodd ym 1985. Mi wnaeth raglenni radio a theledu ar Dementia i S4C ac i’r BBC. Ennillod un o’r rheiny – David and Beti: Lost for Words fedal aur yng Ngwyl Ffilmiau Efrog Newydd. Mae hi’n Gymrawd ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol De Cymru. Yn 2022 dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddi gan Brifysgol Abertawe.
Bethan Jones Parry – ‘Yr hogan ‘na o Eifionydd’ yn ôl John Roberts Williams. Yn newyddiadura, darlledu, ysgrifennu, cyflwyno, arwain, cadeirio a dysgu ers y ganrif ddiwethaf.
Betsan Powys – Ymunodd Betsan Powys â BBC Cymru fel newyddiadurwraig hyfforddedig ym 1989, cyn ymuno â’r ystafell newyddion yng Nghaerdydd fel gohebydd dwy-ieithog aml-gyfryngau. Symudodd i adrodd ar faterion cyfoes ym 1994. Dechreuodd Betsan Powys gyflwyno ar raglen Newyddion ar S4C, fel prif ohebydd materion cyfoes Ewrop yn y gyfres Ewropa, ac ymunodd â Huw Edwards i gyflwyno rhaglenni arbennig yr etholiadau yn y Deyrnas Unedig. Daeth nôl o Lundain i Gaerdydd i weithio i BBC Cymru cyn cael ei phenodi’n Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru. Penodwyd Betsan fel Golygydd BBC Radio Cymru ble y bu am bum mlynedd tan 2018. Hi bellach yw cyflwynydd Pawb a’i Farn.
Euros Lewis – Euros Lewis yw sefydlydd cwmni cynhyrchu Wes Glei. Mae’n gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd ac yn awdur sgriptiau. Mae e’n gerddor dawnus.
Marc Webber – Mae gan Marc bron 30 mlynedd o brofiad yn y cyfryngau. O Ben-y-Bont-ar-Ogwr yn wreiddiol, dechreuodd ei yrfa fel sylwebydd chwaraeon ar Red Dragon Radio yn Nghaerdydd. Mae wedi bod yn Bennaeth Cynnwys ITV.com, golygydd fideo aml-blatfform PA ac hefyd gweithio ar FT, LBC, The Sun a France 24. Mae e hefyd wedi bod ymgynghorydd digidol gyda UTV, rhan pwyllgor digidol S4C a barnwr Gwŷl Cyfryngau Celtaidd. Ar hyn o bryd, mae’n weithio fel uwch darlithydd mewn newyddiaduraeth yn Mhrifysgol Northampton ac fel gohebydd pêl-droed ar ran theledu a radio BBC.
Sharon Morgan – Mae Sharon Morgan yn actores ac yn sgriptwraig sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA. Mae hi wedi’i henwebu i fod ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymru Equity 2021-2023. Yn ystod ei gyrfa, mae wedi ymddangos mewn nifer fawr o gynhyrchiadau llwyfan, o raglenni teledu ac o ffilmiau – mae’r rhestr yn hirfaith. Roedd Sharon Morgan yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu dramâu gan gynnwys Ede Hud a Holl Liwie’r Enfys, ac wedi cyfieithu rhai i’r Gymraeg – Shinani’n Siarad –cyfieithiad oVagina Monologues gan Eve Ensler a Gobeithion Gorffwyll, cyfieithiad o Une Femme Rompue gan Simone de Beauvoir.
Mae ei hymddangosiadau ffilm a theledu yn cynnwys rhannau yn:
Gadael Lenin; Martha Jac a Sianco; High Hopes; Doctors; Belonging; Yr Amgueddfa; Yr Heliwr; A Mind to Kill; Belonging; Doctors; Midsomer Murders; Casualty; Pobol y Cwm; Coronation Street; Caerdydd; Alys; Pleasure Pill; Tair Chwaer; Torchwood; Resistance; Hollyoaks Later; Da Vinci’s Demons; the Magnificent Evans; 35 Diwrnod; Apostle; Y Gwyll/Hinterland; 15 Days; Gangs of London; Holby City; The Tuckers; yr Amgueddfa; a Grand Slam.
Mae ei hymddangosiadau llwyfan yn cynnwys:
House of America; The Myth of Michael Roderick (Y Cwmni); Adar Heb Adenydd (Dalier Sylw ); Flowers From Tunisia (Theatr y Byd); Angels don’t Need Wings (Hi-Jinx); Mother Courage (NTW); Pornography (Waking Exploits); Utah Bride/ Priodferch Utah (Theatr Gwalia); Ede Hud; Holl Liwie’r Enfys; Trafaelu Ar y Tren Glas; Shinani’n Siarad (Rhosys Cochion); Uncle Vanya (Theatr Clwyd); a A Good Night Out In The Valleys (National Theatre Wales).
Mae Sharon Morgan wedi cyhoeddi ei hunangofiant mewn dau ran, Hanes Rhyw Gymraes, ac Acotres a Mam.
Siwan Jobbins
Mae Siwan yn arbenigo mewn darlledu plant, animeiddio a chyfryngau cymysg, mae hi wedi gweithio ar brosiectau arloesol a chynyrchiadau arobryn yng Nghymru, yng ngwledydd eraill ynysoedd Prydain yn ogystal ag ymhellach yn rhyngwladol. Yn rhedwr sioe, gweithredwr a chynhyrchydd creadigol profiadol, mae hi wedi bod yn botsiar a chiper, gan weithio mewn rolau rheoli a chreadigol i ddarlledwyr a chwmnïau cynhyrchu annibynnol. Arbenigeddau: Datblygu, rhedeg sioeau, cynhyrchu, cynhyrchu gweithredol, ysgrifennu sgriptiau, ariannu cynyrchiadau, caffael, cyfarwyddo llais.